Role: Police Constable Entry Programme
Contract: Permanent/Full time
Salary: Starting salary £29,907
Closing date: 12 pm on 4th February 2025
Would you like a career like no other? If so… JoinUs
South Wales Police brings together thousands of people with the same aim – to keep South Wales safe.
We want to be the best at understanding and responding to our community’s needs. To do this we need the very best candidates from a wide range of backgrounds to become part of our policing family.
A career in policing demands skill, compassion, leadership, initiative, and a genuine desire to make a difference to society. We work 24 hours a day, seven days a week, across an area of about 800 square miles from Swansea to Merthyr Tydfil to our capital city, Cardiff. It’s a job but where no two days are the same – and it offers a variety of fulfilling and exciting career.
The role can be challenging, and you will need to be resilient and resourceful, but we are here to support you. You will need to be committed to a journey that requires balancing academic requirements and a new role within a 24/7 policing service. It is a job like no other and we are looking for people with diverse skills and experiences to join our successful team.
There are now more options than ever to become a Police Officer in #TeamSWP:
Police Constable Entry Programme (PCEP)
South Wales Police is offering a fourth non-degree entry route called the Police Constable Entry Programme (PCEP).
To be eligible for this route, candidates must have three years allied experience within the last five years from the date of application in one of the following sectors: -
- Criminal justice sector/CPS/courts/ Probation
- Border forces
- Armed forces
- Prison service
- Emergency services
- Fire
- Ambulance
- Special Constable
- Police Community Support Officer
- Custody Detention Officers
- Coast Guard
- Public Service Centre
- Cyber/digital and financial fraud/crimes
- Specialist roles in banking and financial sector
- Digital Investigations
- Specialist investigative roles within the policing sector
- Health and Social Care sectors
- Social work
- Youth work
- Social care work
- Justice and law enforcement
- Local Authority experience involving close working relationships with police
In addition, you will need to have already achieved a GCSE Grade A-C in English and Maths, or a Level 2 Equivalent in these subjects. If you do not hold this qualification, you will need to complete an online English and Maths competency-based assessment.
The aim of the PCEP route is to provide skills and knowledge needed to give those on the route ‘the best possible start to your career in policing’. The programme uses operational, common-sense policing that will give officers the tools they need.
The route is a Level 5, non-accredited learning programme that combines theoretical and work-based learning delivered internally by South Wales Police. The duration of the programme is 2 years and officers will not achieve any qualification at the end of their probationary period although there is an option to accredit in year 3 if eligible.
The starting salary is £29,907. Further information on the numerous benefits to working for South Wales Police available using the following link: -
Pay, Benefits and Rewards
If successful in your application, you will receive the highest level of training and support, and you can expect excellent career prospect and benefits.
Rôl: Rhaglen Mynediad Cwnstabl yr Heddlu
Contract: Parhaol/Llawn Amser
Cyflog: Cyflog cychwynnol £29,907
Dyddiad cau: 21 Ionawr 2025
Hoffech chi gael gyrfa heb ei hail? Os felly... Ymunwch â Ni
Mae Heddlu De Cymru yn dod â miloedd o bobl ynghyd sydd â'r un nod – cadw De Cymru'n ddiogel.
Rydym am sicrhau mai ni yw'r gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau. I wneud hyn, mae angen i'r ymgeiswyr gorau posibl o amrywiaeth eang o gefndiroedd ymuno â'n teulu plismona.
Mae gyrfa mewn plismona yn gofyn am fedrusrwydd, tosturi, arweinyddiaeth, blaengaredd a gwir ddymuniad i wneud gwahaniaeth mewn cymdeithas. Rydym yn gweithio 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, ledled ardal o tua 880 milltir sgwâr o Abertawe i Ferthyr Tudful i'n prifddinas, Caerdydd. Mae'n swydd lle mae pob diwrnod yn wahanol – ac mae'n cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa gwerth chweil a chyffrous.
Gall y rôl fod yn un heriol, a bydd angen i chi fod yn wydn a dyfeisgar, ond rydym yma i'ch cefnogi. Bydd angen i chi fod yn ymrwymedig i daith sy'n gofyn am gydbwyso gofynion academaidd a rôl newydd mewn gwasanaeth plismona 24/7. Mae'n swydd heb ei hail ac rydym yn chwilio am bobl â sgiliau a phrofiadau amrywiol i ymuno â'n tîm llwyddiannus.
Mae bellach mwy o opsiynau nag erioed i fod yn Swyddog yr Heddlu yn #TîmHDC:
Rhaglen Mynediad i Gwnstabliaid yr Heddlu (PCEP)
Mae Heddlu De Cymru yn cynnig pedwerydd llwybr mynediad heb radd o'r enw Rhaglen Mynediad i Gwnstabliaid yr Heddlu (PCEP).
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y llwybr hwn, rhaid i ymgeiswyr feddu ar dair blynedd o brofiad cysylltiedig yn ystod y pum mlynedd diwethaf o dyddiad y cais yn un o'r sectorau canlynol: -
- Sector cyfiawnder troseddol/ Gwasanaeth Erlyn y Goron/ llysoedd/ Gwasanaeth Prawf
- Lluoedd Ffiniau
- Lluoedd Arfog
- Gwasanaeth carchardai
- Gwasanaethau brys
- Tân
- Ambiwlans
- Cwnstabl Gwirfoddol
- Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu
- Swyddogion Cadw yn y Ddalfa
- Gwarchodlu Arfordir
- Y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus
- Seiberdroseddau/troseddau digidol a thwyll ariannol/troseddau
- Rolau arbenigol mewn bancio a'r sector ariannol
- Ymchwiliadau Digidol
- Rolau ymchwiliol arbenigol o fewn y sector plismona
- Y sectorau Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Gwaith Cymdeithasol
- Gwaith Ieuenctid
- Gwaith gofal cymdeithasol
- Cyfiawnder a gorfodi'r gyfraith
- Profiad Awdurdod Lleol yn cynnwys cydberthnasau gwaith agos â'r heddlu
Yn ogystal, bydd angen i chi feddu ar TGAU Gradd A-C mewn Saesneg a Mathemateg, neu gymhwyster Lefel 2 cyfatebol yn y pynciau hyn. Os nad oes gennych y cymhwyster hwn, bydd angen i chi gwblhau asesiad seiliedig ar gymhwysedd Saesneg a Mathemateg ar-lein.
Nod y llwybr Rhaglen Mynediad i Gwnstabliaid yr Heddlu yw rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol i'r rhai sydd ar y llwybr fel eu bod yn cael y ‘cyfle gorau posibl i ddechrau gyrfa mewn plismona’. Mae'r rhaglen yn defnyddio plismona gweithredol, synnwyr cyffredin sy'n rhoi'r adnoddau y bydd eu hangen arnynt i'r swyddogion.
Rhaglen ddysgu Lefel 5 heb ei hachredu yw hon, sy'n cyfuno dysgu damcaniaethol a dysgu seiliedig ar waith a gyflwynir yn fewnol gan Heddlu De Cymru. Mae'r rhaglen yn para 2 flynedd ac ni fydd swyddogion yn ennill unrhyw gymhwyster ar ddiwedd eu cyfnod prawf, er bod dewis i gael achrediad yn y drydedd flwyddyn os byddant yn gymwys.
Y cyflog cychwynnol yw £29,907. Ceir rhagor o wybodaeth am fanteision niferus gweithio i Heddlu De Cymru drwy ddefnyddio'r ddolen ganlynol: -
Cyflog, Buddiannau a Gwobrau
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael y lefel uchaf o hyfforddiant a chymorth a gallwch ddisgwyl rhagolygon gyrfa a buddiannau ardderchog.